Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020
Amser:
14.00 -
16.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6517
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Laura Anne Jones AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru Nathan Cook, Llywodraeth Cymru Alison Black, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, David Rees.
1.2 Etholwyd Alun Davies yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Egwyl
4 Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ac at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 7 Rhagfyr 2020
5.1.2 Nodwyd y papur.
5.2 Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan yr Arglwydd True, y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa'r Cabinet at y Cadeirydd ynghylch Bil y Farchnad Fewnol y DU - 9 Rhagfyr 2020
5.2.1 Nodwyd y papur.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd – trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.